Ken Skates AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith
 Llywodraeth Cymru

10 Hydref 2017

Annwyl Ken,

Y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol

Diolch am ddod i gyfarfod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 27 Medi 2017. Yn ystod y cyfarfod, dywedasoch y byddech yn croesawu barn y Pwyllgor ynghylch pa mor aml y dylai'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol gael ei ddiweddaru.

Wedi trafod y mater, ni all y Pwyllgor weld rheswm pendant dros beidio â diweddaru'r cynllun, a'i amserlen gyflwyno yn arbennig, bob blwyddyn. Byddai gwneud hynny yn helpu pawb yng Nghymru i weld yn glir lle mae rhai o'r prosiectau cyffrous a gynigir i Gymru yn gwneud cynnydd, a lle mae llithro wedi digwydd o ran amserlenni. Yn ddelfrydol, byddai diweddariad blynyddol i'r amserlen yn cael ei gyhoeddi ddiwedd yr haf fel y gallem drafod cefndir a goblygiadau unrhyw newidiadau â chi wrth graffu ar y gyllideb.

Yn ein barn ni, ni ddylai’r gwaith diweddaru tablau'r amserlen gyflwyno i ddangos statws cyfredol y prosiectau presennol, gan ychwanegu unrhyw brosiectau newydd, fod yn arbennig o feichus gan y byddai ond yn dangos gwaith sy’n mynd rhagddo. Credwn y dylai'r diweddariad gynnwys nodyn byr ar gyfer pob cofnod yn disgrifio unrhyw newidiadau a wnaed a’r rhesymau dros eu gwneud.

 

Diolch am ofyn am gyfraniad y Pwyllgor yn y mater hwn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu yn eich ateb y camau yr ydych yn bwriadu eu cymryd, gan gynnwys yr amserlen arfaethedig ar gyfer y diweddariadau. 

 

Yn gywir,

 

Russell George AC

Cadeirydd

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau